CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU – PWYLLGOR PLANT A PHOBL IFAINC

Hoffai Ceredigion ddiolch i Gynulliad Cenedlaethol Cymru – Pwyllgor Plant a Phobl Ifainc am y cyfle i roi tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor i weithrediad Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Mae Aelodau o’r Pwyllgor wedi nodi bod nifer o faterion sy’n arbennig o berthnasol i ardaloedd gwledig megis dewisiadau, teithio a chludiant, dysgu digidol a darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, wedi codi yn nhrafodaethau’r Pwyllgor. Byddwn yn canolbwyntio’n bennaf ar y materion hyn ond hefyd yn gosod y materion hyn yng nghyd-destun Ceredigion fel y bydd Aelodau’n ymwybodol o’r cefndir a’r mandad lleol yr ydym yn gweithio o’i fewn.

NODWEDDION Ceredigion

·           Ceredigion yw’r ail isaf yng Nghymru o ran dwysedd poblogaeth.

·           Yr enillion wythnosol cyfartalog yng Ngheredigion yw’r isaf yng Nghymru a’r prisiau tai ymhlith yr uchaf.

·           Ymhlith y ganran uchaf o weithwyr hunangyflogedig yng Nghymru.

·           Dibynnu’n drwm ar y sector Gyhoeddus am swyddi.

·           Prydau Ysgol am Ddim yng Ngheredigion yw 12.2%. Hyn yw’r trydydd isaf yng Nghymru.

·           Nid oes gan Geredigion ddim ysgolion arbennig. O ganlyniad mae’r holl ddisgyblion yn derbyn darpariaeth addysg yn ein saith ysgol uwchradd.

·           Mae’r lleoedd dros ben mewn ysgolion uwchradd yn uchel iawn ar 25%.

·           Mae gan Geredigion fandad gwleidyddol i gadw addysg uwchradd yn y chwe thref farchnad.  Y mae’r trefi ar wasgar yn eang ar draws y sir. Mae’r pellter rhwng tref a’r dref nesaf ati yng Ngheredigion at ei gilydd yn amrywio rhwng 12 milltir ac 16 filltir. Y mae’r isadeiledd trafnidiaeth yn wael.

·           Mae teithiau uniongyrchol ar y bws rhwng y prif drefi at ei gilydd yn cymryd hanner awr. Eto, cyfyngedig yw’r cysylltiadau drwy drafnidiaeth gyhoeddus.

·           Y mae gan y sefydliad addysg bellach Coleg Ceredigion ddau safle sydd wedi’u lleoli mewn dwy o’r prif drefi, sef Aberystwyth ac Aberteifi. Coleg Ceredigion yw’r Coleg Addysg Bellach lleiaf yng Nghymru.

·           Y mae’r cysylltiadau Band Llydan at ei gilydd yn wael. Tregaron a Llanbedr Pont Steffan oedd y lleoliadau gwaethaf o ran cyflymder band llydan yng Nghymru ac roeddent ymhlith yr 20 lleoliad gwaethaf o ran cyflymder band llydan yn y Deyrnas Unedig. Y mae’r cysylltiadau band llydan o fewn ysgolion eu hunain yn dda.

·           Cyflwyno isadeiledd hyblyg ac amrywiol o ran ysgolion, a hynny’n cynnwys ysgolion 3-19, fel rhan o wneud darpariaeth addysg yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig.

·           Lefelau isel iawn o bobl NEET. Y ganran o ddisgyblion a ddosberthir fel NEET ar ôl gorffen blwyddyn 11 yw’r isaf yng Nghymru.

·           Yr ail ganran uchaf o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn dewis dychwelyd i’r 6ed dosbarth.

STRATEGAETH 14-19 Ceredigion

Gellir crynhoi’r prif strategaethau ar gyfer sefydlu’r Mesur Dysgu yng Ngheredigion fel a ganlyn.

·         Adeiladu ar y deilliannau cryfion a gyflawnwyd gan y drefn ysgolion sydd ohoni yng Ngheredigion drwy sefydlu ysgolion 3-19 a chynnal trefniadau cydweithio ffurfiol yn ôl model canolbwynt a breichiau rhwng ysgolion. ATODIAD

·         Canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cryfion mewn llythrennedd a rhifedd o fewn cwricwlwm eang.

·         Datblygu diwylliant dysgu wedi’i seilio ar TGCh, lle caiff pob dysgwr fynediad at gynnwys cyrsiau a’r amgylchedd dysgu o unrhyw ran o’r ysgol neu o gartref ar unrhyw adeg o’r dydd.

·         Adeiladu ar y gofal bugeiliol rhagorol a ddarperir drwy’r system ysgolion a dal ati i ddatblygu’r strategaethau ymyriad cynnar sydd wedi gwella ymddygiad a brwdfrydedd disgyblion ar draws pob ystod oed.

 

BUDDION I’R DYSGWR

Y mae’r Mesur wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr.

Gwelliannau Cwricwlaidd

·         Gwell dewis i’r dysgwyr a chynnydd yn nifer y Llwybrau Dysgu sydd ar agor iddynt ar draws meysydd ehangach.

·         Mwy o gyfleoedd dysgu’n cael eu cymryd ar gyfartaledd ar draws pob maes o’r cwricwlwm.

·         Wedi peri bod mwy o hyblygrwydd yn y cwricwlwm a gadael i ddysgwyr fanteisio ar ddarpariaeth ddysgu bersonol.

 

Gwelliannau o ran lles

·         Wedi hybu gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr megis cwnsela yn yr ysgol a hyfforddwyr dysgu. 

·         Wedi sicrhau bod gan bob ysgol uwchradd gyfleuster Hafan ac Encil[1] i roi cymorth gydag anghenion emosiynol ac ymddygiadol dysgwyr o fewn pob sefydliad.

·         Wedi sicrhau bod Gwasanaeth amhleidiol i roi Cyngor ar Yrfaoedd ym mhob sefydliad. 

·         Wedi sicrhau bod gan bob dysgwr Ddatganiad Hawl a Haeddiant gan y Rhwydwaith Dysgu 14-19.

·         Wedi annog disgyblion i fynegi eu hopsiwn ar y ddarpariaeth drwy holiadur blynyddol “Llais y Dysgwr”.

·         Wedi gwella’r Parch Cydradd rhwng cyrsiau galwedigaethol a chyrsiau traddodiadol mewn ysgolion.

 

DEILLIANNAU’N CODI O’R MESUR 14-19 YNG NGHeredigion

Mae gweithredu’r Mesur 14-19 yng Ngheredigion wedi arwain at nifer o fuddion mesuradwy.

·         Bu canolbwyntio effeithiol ar les disgyblion, er enghraifft drwy’r gwasanaeth cwnsela. Mae hyn wedi arwain at welliant mewn ymddygiad a gwell graddfeydd presenoldeb.

o   Mae canran y disgyblion mewn addysg lawn amser ar ddiwedd blwyddyn 11 wedi codi o 78% yn 2006 i 86.2% yn 2010.

o   Mae’r graddfeydd presenoldeb mewn ysgolion uwchradd wedi gwella o 91.6% yn 2007-08 i 92.5%, sef yr uchaf yng Nghymru yn 2010-11. Y raddfa bresenoldeb hyd yn hyn yn 2011-12 yw 94%, peth nas gwelwyd erioed o’r blaen.

o   Mae nifer y dyddiau a gollwyd oherwydd gwaharddiadau tymor penodol o 6 diwrnod neu fwy wedi disgyn o 65 (2007-08) i 40 (2009 -2010). Ni fu dim gwaharddiadau tymor penodol o 6 diwrnod neu fwy yn ystod tymor cyntaf 2011-12. Ni fu dim gwaharddiadau parhaol yn 2010-11 nac yn nhymor cyntaf 2011-12.

 

·         Gwelsom welliant parhaus yn ystadegau trothwy Lefel 2 a Lefel 3 yn ystod y 4 blynedd diwethaf. Gwelsom welliant garw hefyd yn y sgôr pwyntiau cyfartalog ehangach er 2008.

o   Mae canlyniadau trothwy Lefel 2 wedi gwella o 61.6% yn 2008 i 71.4% yn 2011.

o   Mae sgôr pwyntiau cyfartalog ehangach disgyblion 17 flwydd oed wedi gwella o 659 i 813 yn ystod yr un cyfnod.

 

 

MATERION SY’N CODI WRTH WEITHREDU’R MESUR DYSGU

Rhydd y tabl canlynol grynodeb o’r prif faterion sy’n effeithio ar wireddu’n llawn fuddion y Mesur Dysgu.

Mae rhai o’r materion megis cyndynrwydd o newid a chyfathrebu ag awdurdodau cyfagos i’w rheoli orau ar lefel leol.

Mae materion eraill megis yr economi wledig, denu mwy o fuddsoddiad a chyfleoedd am swyddi drwy’r sector breifat, cyflogaeth, hygyrchedd band llydan a chostau teithio yn rhai sy’n gofyn cefnogaeth genedlaethol. O’r rhain, cludiant yw’r her unigol fwyaf wrth weithredu’r Mesur Dysgu.

Mater

Dull rheoli

Costau teithio uchel ac amseroedd teithio hir mewn ardaloedd gwledig. (Atodiad 2)

Dengys data Stats Cymru fod Ceredigion yn gwario £465 y disgybl bob blwyddyn ar gludo disgyblion i’r ysgol o’i gymharu â £109 y disgybl yng Nghaerdydd. Hwn yw’r cyfyngiad mwyaf sy’n wynebu darparwyr yng Ngheredigion. Nid yw costau cludiant yn cael eu cydnabod mewn cyllido ôl-16 ac mae hyn yn faich ychwanegol sylweddol ar yr Awdurdod Lleol.

 

Mae amserlennu ar y cyd rhwng ysgolion partner wedi helpu i leihau’r gost ond eto nid yw’n fodel llwyr gynaliadwy. Y cam nesaf yw rhoi modelau Canobwynt a Breichiau ffurfiol ar waith fel a ddisgrifir yn Atodiad 1.

 

Mae uno 6ed dosbarthiadau yn anorfod yn cynyddu’r pellteroedd a deithir gan ddisgyblion i gael mynediad at addysg. Mae hyn yn cynyddu amseroedd teithio disgyblion a hefyd costau teithio. Mae hyn yn wir p’un a fydd 6ed dosbarthiadau yn wir yn cael eu huno â’i gilydd neu’n uno’n rhithwir yn rhan o uned gydweithredol.

 

Nid yw’r costau teithio hyn yn cael eu cydnabod yn y fecanyddiaeth ar gyfer cyllido cyrsiau ôl-16. Mae hyn yn gosod awdurdodau gwledig o dan anfantais sylweddol ac yn rhwystro datblygu ateb llwyr gynaliadwy.

Cynaliadwyedd darparu 30 o gyrsiau mewn ysgolion uwchradd bach.

 

Nododd y Swyddfa Archwilio fod eisiau o leiaf 150 o ddisgyblion i gynnal 6ed dosbarth cynaliadwy. Mae’r dadansoddiad diweddaraf o gostau a chyllido a wnaed yng Ngheredigion gan gymryd y Mesur Dysgu 14-19 i ystyriaeth yn awgrymu bod y gwir bwynt lle torrir yn gyfartal yn uwch, a’i fod yn fras oddeutu’r 200 disgybl.

 

Mae 6ed dosbarth holl ysgolion uwchradd Ceredigion namyn 1 yn llai na 150 o ddisgyblion.

 

Mae’r pwysau ar gyllid yn fwy ers i Lywodraeth Cymru beidio â chydnabod teneurwydd poblogaeth a gwledigrwydd yn yr hafaliad ar gyfer cyllido addysg ôl-16. O ganlyniad mae’n rhaid i Geredigion roi cymhorthdal sylweddol i ddarpariaeth ôl-16 o fwy na £300k y flwyddyn, sef 8% o’r gyllideb.

 

Rydym yn mynd i’r afael â’r broblem hon yng Ngheredigion drwy annog bod partneriaethau cydweithredol ar gyfer 6ed dosbarthiadau yn cael eu datblygu gan ddilyn model Canolbwynt a Breichiau. O dan y model hwn bydd yr ysgolion yn y bartneriaeth yn ymgymryd â dewis opsiynau ar y cyd ac amserlennu ar y cyd.

 

Eto, fel a nodir uchod, mae rhoi unrhyw gydweithredu ar waith rhwng darparwyr ôl-16, neu uno unrhyw ddarparwyr ôl-16 yn anorfod yn arwain at gynyddu costau teithio.

 

Mae adnoddau a fyddai fel arall yn cael eu defnyddio i ddatblygu’r cwricwlwm a gwella ansawdd cyrsiau yn gorfod cael eu dargyfeirio a’u defnyddio’n hytrach i alluogi myfyrwyr i gael mynediad.

 

Mae’r cyfleoedd cyflogaeth cyfyngedig yng Ngheredigion yn cyfyngu ar lwybrau i gyflogaeth ac yn esgor ar golli sgiliau o Geredigion.

Mater yw hwn na ellir mo’i reoli’n llwyr ar y lefel leol. Dengys Stats Cymru mai’r enillion wythnosol crynswth cyfartalog yng Ngheredigion yn ystod y ddwy flynedd diwethaf oedd yr isaf yng Nghymru.

 

Mae lefelau cyflawni yng Ngheredigion gyda’r uchaf yng Nghymru. Eto, cyfyngedig yw’r cyfleoedd am gyflogaeth. A chyda’r cyflogau isaf yng Nghymru ychydig o gyfle sydd i brentisiaethau academaidd lle cyflawnir yn uchel neu rai galwedigaethol â chymwysterau da aros yn y sir. O ganlyniad, ceir allfudiad gan y rhai uchaf eu cymwysterau o Geredigion a hyn yn gwaethygu problemau tlodi gwledig.

 

Ond ychydig o fuddsoddiad economaidd a gafodd y Canolbarth gan Lywodraeth Cymru. Mae taer angen buddsoddiad economaidd yng nghefn gwlad y Canolbarth i wrthdroi’r dirywiad economaidd.

Nifer gyfyngedig o ddarparwyr gydag arbenigedd mewn pynciau galwedigaethol mewn ardaloedd gwledig.

Nifer gyfyngedig o ddarparwyr allanol sydd yng Ngheredigion a mentrau a redir gan un neu ddau yw’r rhain at ei gilydd. Mae risgiau o ran dilyniant ac ansawdd gyda rhai o’r darparwyr bach hyn.

Coleg Ceredigion yw’r Coleg Addysg Bellach lleiaf yng Nghymru ac arbenigedd cyfyngedig sydd ganddo mewn rhai meysydd.

 

Anogir partneriaethau rhwng ysgolion i gomisiynu darparwyr hyfforddiant naill ai Coleg Ceredigion neu Hyfforddiant Ceredigion os yw’r arbenigedd eisoes i’w gael, neu i fuddsoddi mewn hyfforddiant i staff lle bo gan aelodau o staff ysgolion yr arbenigedd sydd ei eisiau.

Mae capasiti band llydan yn isel yng Ngheredigion ac mae eisiau diweddaru cyfleusterau TGCh.

 

Rydym wedi datblygu ac yn rhoi ar waith strategaeth TGCh sy’n anelu at wella ansawdd offer TGCh ac ansawdd cefnogaeth TGCh drwy gyfuno cyllid ysgolion.

 

Mae capasiti’r band llydan yn caniatáu i bob ysgol redeg un cyswllt fideogynadledda ar y tro. Drwy ddefnyddio’r adnodd hwn, gellir cyflwyno uchafswm o 6 chwrs o’r 60 o rai Safon Uwch Gyfrannol ac Uwch drwy gynhadledd fideo.

 

Rydym yn ymchwilio i fuddion comisiynu defnyddiau cwrs electronaidd ar gyfer rhai modylau. Bydd hyn yn gadael i ddisgyblion ddysgu rhai pynciau o bell. Bydd athrawon yn cynnal sesiynau tiwtora i fynd i’r afael â phroblemau.

Sicrhau ansawdd cyrsiau a ddarperir mewn cydweithrediad.

Rydym wedi datblygu cytundebau lefel gwasanaeth i’r ysgolion eu defnyddio. Rydym wedi sicrhau bod yr holl ysgolion wedi cwblhau’r cytundebau lefel gwasanaeth hyn. Mae’r cytundebau lefel gwasanaeth hyn yn gosod targedau ansawdd ar gyfer y cyrsiau a ddarperir mewn cydweithrediad. Oni chwrddir â’r mesurau ansawdd, caiff y cyllid ei leihau.

Lleoedd dros ben mewn ardal wledig Atodiad 3

Cyfradd y lleoedd dros ben yn ysgolion cynradd Ceredigion yw 23% a chyfradd y lleoedd dros ben yn ysgolion uwchradd Ceredigion yw 25%.  Rydym wedi cyfrif mai lleiafswm y lleoedd dros ben sy’n economaidd yn ysgolion cynradd Ceredigion yw 14%. Sefyllfa debyg a geir mewn ysgolion uwchradd.

 

Dim ond pan fo’r arbedion a geir drwy gau ysgolion uwchradd yn uwch na chostau ychwanegol darparu cludiant ychwanegol y bydd lleihau lleoedd dros ben yn esgor ar arbedion net.

Casgliad

Er bod y Mesur at ei gilydd wedi cael ei groesawu ac er ei fod wedi esgor ar fuddion gwirioneddol i ddisgyblion, a’r rheini’n bennaf ar ffurf:

·         Dewis ehangach sy’n arwain at well deilliannau;

·         Mwy o foddhad ymhlith disgyblion fod y cwricwlwm yn cwrdd ag anghenion; fel a welir o’r gwell deilliannau;

·         Mwy o fwynhad a brwdfrydedd ymhlith disgyblion fel a welir o’r presenoldeb a’r ymddygiad gwell o lawer;

 

Bydd cynnal y cynnydd yn anodd heblaw bod Llywodraeth Cymru

 

·         yn ehangu ei diffiniad o dlodi yn enwedig mewn ardaloedd gwledig mewn addysg;

·         yn derbyn cludiant fel goblygiad cost sylweddol wrth ddarparu;

·         yn dosrannu pwysoliad priodol i gost darparu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ardal wledig sy’n denau ei phoblogaeth.

 

Bydd cynnal y cynnydd yn anodd heblaw bod Awdurdod Lleol Ceredigion a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i:

·         fuddsoddi yn yr economi leol i ehangu a chaniatáu cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio eu sgiliau ehangach a galwedigaethol yn yr ardal leol;

 

Mae angen i’r Awdurdod Lleol ddal ati i gyflawni ei raglen o newid.


ATODIAD 1 – Y MODEL CANOLBWYNT A BREICHIAU

CYFLAWNI’R MESUR DYSGU – Y MODEL CANOLBWYNT A BREICHIAU

Mae chwech o’r saith chweched dosbarth yng Ngheredigion yn rhai bychain a chanddynt lai na 150 o ddisgyblion. Nid yw’n bosib i bob un o’r chwe chweched dosbarth hyn redeg 30 o gyrsiau.

Yr allwedd i ddarparu 30 o opsiynau ar gyfer disgyblion yw lleihau gymaint ag y bo modd ddyblygu cyrsiau rhwng ysgolion cyfagos. Yr ateb a ffefrir i gyflawni’r nod hwn yng Ngheredigion yw’r model canolbwynt a breichiau.

Mae’r ateb canolbwynt a breichiau hwn i Geredigion wedi cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad agos â Chynghorau Sir Powys a Sir Gaerfyrddin. Mae’r ddwy sir wledig hyn yn wynebu heriadau cyffelyb.

Gellir crynhoi’r model canolbwynt a breichiau yng Ngheredigion fel a ganlyn:-

·         Caiff ysgolion uwchradd eu partneru gydag un neu ddwy ysgol arall.

·         Bydd ysgolion sy’n bartneriaid yn cyfuno eu cyllideb ôl-16.

·         Bydd ysgolion o fewn pob partneriaeth yn mynd ati ar y cyd i ddethol blociau opsiwn. Rhyngddynt, bydd yr ysgolion yn cynnig o leiaf 30 o opsiynau cwrs.

·         Caiff costau teithio a gwastraff amser eu lleihau drwy ddethol un ysgol yn y bartneriaeth i fod yn ysgol ganolbwynt. Bydd yr ysgol ganolbwynt yn darparu ystod ehangach o gyrsiau na’r ysgolion braich.

·         Caiff disgyblion fynediad at bob pwnc a gynigir gan y bartneriaeth.

·         Caiff yr amser a gollir drwy deithio ei leihau hefyd drwy ddarparu gwersi mewn blociau hyd at dair awr o hyd.

·         Y Cyngor Sir a’r ysgolion fydd yn cwrdd â chostau teithio, ac nid y disgyblion, er mwyn cadw nifer y bobl NEET i lawr.

 


 

ATODIAD 2 – MATERION CLUDIANT

Y prif faterion teithio sy’n berthnasol i’r Mesur Dysgu yw’r canlynol:-

·         Nid yw cyllido addysg ôl-16 yn cydnabod costau teithio uchel mewn ardaloedd gwledig.

·         Mae amseroedd teithio hwy mewn ardaloedd gwledig yn cael effaith ar ddarparu addysg.

 

COSTAU TEITHIO

Mewn ardaloedd gwledig, mae disgyblion wedi’u gwasgaru’n ehangach. Mae ysgolion uwchradd yn unedau llai ac wedi’u lleoli’n bellach o’i gilydd. Mae costau cludiant yn uwch o lawer mewn ardaloedd gwledig nag mewn ardaloedd trefol. Cost cludiant o’r cartref i’r ysgol ym Mhowys a Cheredigion yw £462 a £459 y disgybl bob blwyddyn. Cost cludiant o’r cartref i’r ysgol yng Nghaerdydd a Chasnewydd yw £109 a £156 y disgybl bob blwyddyn.  Hefyd, mae llai o gludiant cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig. Oherwydd hyn mae mwy o angen i Awdurdodau Lleol drefnu cludiant i ddisgyblion ôl-16 mewn ardaloedd gwledig.

Nododd y Swyddfa Archwilio fod angen o leiaf 150 o ddisgyblion i gynnal 6ed dosbarth cynaliadwy. Mewn uned chweched dosbarth gynaliadwy, mae’r cyllid a dderbynnir yn gyfartal â’r gwariant sy’n deillio o gyflwyno darpariaeth 6ed dosbarth. Mae’r dadansoddiad diweddaraf o gostau a chyllido a wnaed yng Ngheredigion gan gymryd y Mesur Dysgu 14-19 i ystyriaeth yn awgrymu bod y pwynt lle torrir yn gyfartal mewn gwirionedd yn uwch, ac mai tua 200 o ddisgyblion yw ef.

Mae 6ed dosbarth y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd mewn ardaloedd gwledig yn llai na 150 o ddisgyblion. Dangosir maint 6ed dosbarthiadau yng Ngheredigion ym mis Ionawr 2011 yn y tabl isod.

Ysgol

Nifer y disgyblion

Aberaeron

132

Aberteifi

100

Dyffryn Teifi

119

Llanbedr

122

Penglais

302

Penweddig

122

Tregaron

73

Mae hyn yn golygu mai’r unig ffordd o greu unedau cynaliadwy gyda mwy na 200 o ddisgyblion yw cyfuno chweched dosbarthiadau. Gellir uno chweched dosbarthiadau’n ffisegol drwy ddod â dwy ysgol ynghyd ar un safle. Y dewis arall yw uno dwy ysgol mewn modd rhithwir. Mae uno dwy ysgol mewn modd rhithwir yn golygu trin chweched dosbarthiadau’r ddwy ysgol fel un uned; yn yr achos hwn mae’n rhaid paratoi a chytuno’r blociau opsiwn ac amserlen y 6ed dosbarth ar y cyd.

Yn y ddau achos uchod, bydd angen cynyddu’r teithio a wna disgyblion. O dan yr opsiwn cyntaf bydd angen i ddisgyblion deithio ymhellach i gyrraedd y 6ed dosbarth unedig newydd.  O dan yr ail opsiwn, bydd angen i ddisgyblion deithio rhwng safleoedd i ddilyn rhai cyrsiau. Mae capasiti’r band llydan yng Ngheredigion yn cyfyngu nifer y cyrsiau a ddarperir drwy fideogynadledda i 3 o’r 30 o gyrsiau.

Un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru fel a nodir yn y cynllun 5 mlynedd yw gwella “Graddfeydd aros ymlaen ar ôl 16 (gan gynnwys yr ysgol, addysg bellach a hyfforddiant)”. Mae cyrraedd y nod hwn mewn ardaloedd gwledig yn dibynnu ar fod awdurdodau lleol yn talu am gludiant. Mae’n debygol y byddai rhai pobl ifainc yn cael eu troi yn erbyn mynd i’r ysgol neu’r coleg pe tasai’n rhaid iddynt dalu eu costau teithio.

Mae hyn yn peri bod gweithredu’r Mesur Dysgu yn rhwym o fod yn ddrutach mewn ardaloedd gwledig nag mewn ardaloedd mwy poblog. Lleiafswm y gost ychwanegol yw’r costau teithio ychwanegol sydd eu hangen i gludo pobl i’r un chweched dosbarth unedig neu i gludo disgyblion o’r naill safle i’r llall.

Bydd y gwir gostau teithio’n amrywio gan ddibynnu ar nifer o ffactorau, a’r rheini’n cynnwys niferoedd disgyblion, pellteroedd teithio, dwysedd y boblogaeth a nifer y mannau codi a’r llwybrau cludiant cyhoeddus sydd ar gael. I roi syniad o’r costau teithio, nodwyd mewn model mai’r costau teithio ychwanegol a ddeilliai o greu un chweched dosbarth i dair ysgol uwchradd yng nghanol Ceredigion oedd o leiaf £200k y flwyddyn.

Bydd angen i’r Cyngor Sir ddangos i randdeiliaid pam ei bod yn well gennym wario’r £200k hyn ar gostau cludiant i gyflawni’r Mesur Dysgu yn hytrach nag ar 5 athro yn yr ysgolion.

Yn ystod y ddwy flynedd nesaf cyllidir y costau teithio ychwanegol hyn drwy ddefnyddio’r RNDP. Os daw’r RNDP i ben yna dim ond os cytuna Cyngor Ceredigion i gwrdd â’r costau teithio ei hun y gellir cwrdd â’r Mesur Dysgu. Bydd hyn yn golygu bod angen lleihau rhai o wasanaethau eraill yr Awdurdod Lleol er mwyn cwrdd â’r costau teithio ychwanegol. 

AMSER TEITHIO

Yn ogystal â chost ariannol, bydd uno lleoedd 6ed dosbarth yn cosbi disgyblion o ran amser teithio. Mae isadeiledd cludiant cefn gwlad yn wael at ei gilydd o’i gymharu â rhannau eraill o Gymru. Bydd angen i leiafrif sylweddol o ddisgyblion deithio pellteroedd maith i gael mynediad at addysg. Mae hyn yn wir boed 6ed dosbarthiadau’n uno mewn gwirionedd neu’n dod ynghyd mewn modd rhithwir yn rhan o uned gydweithredol.

·         Bydd myfyrwyr yn teithio’n bellach i fynd i’r uned ôl-16 ac o ganlyniad bydd ganddynt lai o amser at weithgareddau allgyrsiol.

·         Gall y caiff rhai disgyblion eu troi yn erbyn dychwelyd i addysg ar ôl 16 oherwydd yr angen i dreulio llawer o amser yn teithio.

·         Yn achos cydweithio rhwng 6ed dosbarthiadau:-

o   Mae’n rhaid darparu gwersi mewn blociau o 3 awr i leihau costau teithio. Bydd angen i ddulliau dysgu newid.

o   Bydd myfyrwyr yn teithio’n rhannol yn ystod diwrnod yr ysgol. Bydd hyn yn lleihau oriau cyswllt dysgu. Bydd gan fyfyrwyr lai o gyfle i ddysgu yn ystod diwrnod yr ysgol.

Mae’r ffactorau a nodir uchod yn debygol o gael effaith negyddol ar gyflawniadau pobl ifainc. Bydd hyn yn ein rhwystro rhag gallu gwireddu’n llawn fuddion llawn y Mesur Dysgu.

Mae angen inni barhau i reoli’n ofalus y newid i drefn ôl-16 fwy cydweithredol. Bydd cromlin ddysgu i’w chael cyn inni ddod i wybod y ffordd orau o reoli effaith yr amser y bydd disgyblion yn ei dreulio ar deithio.  Yn ystod y gromlin ddysgu hon, efallai na fydd cyflawniadau disgyblion yn gwella mor gyflym ag y gobeithid.

Gofynnwn fod cyllid RNDP yn parhau i fod ar gael yn benodol i gynnal cludiant ôl-16.

Tanlinellwn y ffaith y bydd cromlin ddysgu i’w chael wrth i awdurdodau lleol cefn gwlad ddod i wybod y ffordd orau o reoli effaith yr amser ychwanegol y bydd disgyblion yn ei dreulio ar deithio.

 


 

ATODIAD 3 – Y MESUR DYSGU a LLEOEDD DROS BEN

MYND I’R AFAEL Â LLEOEDD DROS BEN

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd lleihad yn niferoedd disgyblion ac o ganlyniad, graddfa’r lleoedd dros ben yn ysgolion cynradd Ceredigion yw 23% a graddfa’r lleoedd dros ben yn ysgolion uwchradd Ceredigion yw 25%. 

YSGOLION CYNRADD

Mae’r adran addysg yng Nghyngor Sir Ceredigion wedi amcangyfrif mai’r lleiafswm y gellir ei gyrraedd yn economaidd yng Ngheredigion o ran nifer y lleoedd dros ben mewn ysgolion cynradd yw 14%. Mae hyn yn uwch na’r targed o 10% sydd wedi’i osod gan Lywodraeth Cymru.

Crynhoir y fethodoleg fel a ganlyn:-

·         Gellir cyfrif yr arbedion a geir drwy gau ysgol fel £37,000. Mae’r model yn awgrymu bod hyn yn wir beth bynnag fo nifer y lleoedd yn yr ysgol neu nifer y disgyblion ar y gofrestr.

·         Cost gyfartalog cludiant i bob disgybl yng Ngheredigion yw £465.

·         Gwnaethom ddosbarthu ysgolion fesul ardal gyda’u hysgolion cyfagos ac asesu a oedd cyfuno neu gau ysgolion yn debygol o esgor ar arbedion economaidd. Gwnaethom gymryd nad oes dim cyfyngiad ar gyfalaf. Hynny yw, gellir codi unrhyw nifer o ysgolion cynradd ardal neu estyniadau.

·         Wrth glustnodi ysgolion i’w cau yn y dyfodol daethom i’r casgliad y gellid dileu 687 o leoedd dros ben.

·         Ar yr adeg hon, byddai graddfa’r lleoedd dros ben yn disgyn o 23% i 14%.

·         Y tebyg yw y byddai ceisio lleihau graddfa’r lleoedd dros ben ymhellach y tu hwnt i’r 14% yn esgor ar ddarpariaeth addysg ddrutach oherwydd effaith costau teithio.

LLEOEDD DROS BEN MEWN YSGOLION UWCHRADD

Dim ond drwy gau ysgolion y gellir dileu lleoedd dros ben. Yn achos ysgolion uwchradd gwnaethom ddatblygu model i amcangyfrif yr arbedion y gellid eu gwneud drwy gau ysgolion a chymharu’r ffigur hwn â’r gwir gostau teithio ychwanegol a godai.

Mae’r model ariannol yn awgrymu bod i ysgolion uwchradd gost sefydlog o £431k y flwyddyn. Mae hyn yn golygu hyd yn oed pe na byddai gan ysgol ddim disgyblion, y costiai £431k y flwyddyn i’w rhedeg. Y mae’n golygu hefyd pe byddem yn cau ysgol uwchradd, y byddem yn disgwyl gwneud arbedion refeniw o £431k y flwyddyn llai unrhyw gostau teithio ychwanegol.

 

 

 

Gall costau teithio mewn sir wledig fel Ceredigion fod yn sylweddol iawn. Ar gyfartaledd bydd Ceredigion yn gwario £465 y disgybl bob blwyddyn ar gludo disgyblion i’r ysgol o’i gymharu â £109 y disgybl yng Nghaerdydd. Rydym wedi dadansoddi’r costau teithio ychwanegol a ddisgynnai ar Geredigion o dan wahanol ddewisiadau posib o ran cau ysgolion.

Byddai’r costau teithio ychwanegol a ddeilliai o gau’r rhan fwyaf o ysgolion uwchradd Ceredigion yn uwch na £431k.

 


[1] Cyfleuster cynhwysiant yw’r Hafan ac Encil. Grŵp anogaeth yw’r cyfleuster Hafan a chyfleuster neilltuo yw’r Encil.